top of page
Search
wrexhamcommunityga

Cyfri’r Dyddiau Nes y Nadolig – Dôl yr Eryrod

Cefais i a Mat ddiwrnod gwych yn nigwyddiad Cyfri’r Dyddiau Nes y Nadolig yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod ar 23 Rhagfyr, ac os yw’r cyhoeddiadau a wnaed yno yn profi i fod yn wir, dylai fod llawer o fentrau cyffrous eraill yn digwydd yno yn y dyfodol. Gallai rhai ohonyn nhw roi cyfleoedd eraill i ni hyrwyddo ein gwaith a chodi rhagor o arian.


Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion fywyd ychydig yn anodd, ac roedd wir angen y pwysau ar gyfer ein gasebo. Er gwaethaf hyn, fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl ac ychwanegu tua £130 at yr arian sydd ar gael a fydd yn bendant o gymorth. Ond yn bwysicach yw'r cysylltiadau a wnaethon ni a'r cyhoeddusrwydd i'n gwaith a'r cyfleoedd gwirfoddoli rydyn ni’n eu cynrychioli. Er enghraifft, enillwyd ein raffl gan Lindsay sydd â diddordeb mewn ymuno â'n tîm garddio. Mae angen byddin o wirfoddolwyr arnon ni gan y byddai’n well cael llawer o wirfoddolwyr yn gwneud ychydig na chriw bach o wirfoddolwyr yn gwneud llawer yr un. Mae gan ein gwirfoddolwyr deuluoedd, swyddi a chyfrifoldebau eraill, ond gallwn ddarparu gweithgaredd hwyliog iddyn nhw nad ydyn ni am iddo fynd yn dasg enfawr iddyn nhw.




3 views0 comments

Comments


bottom of page